| Dyma gyfres liwgar gyda phenillion Cymraeg at bob achlysur. Sefydlwyd y cwmni yn 2001 wedi i Menna Medi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol am benillion addas ar gyfer cardiau cyfarchion. Gofynnodd i’w nith, Bethan Elin Jones, sydd wedi graddio mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle, wneud y darluniau. Wedi profi’r farchnad gydag ugain o gardiau, tyfodd y busnes i gynhyrchu dros 90 o gynlluniau, gyda Gwasg y Castell, Rhoslan yn eu hargraffu. Mae pennill wahanol neu gyfarchiad doniol yn y rhan fwyaf ohonynt..
Mae’r cardiau ar werth ledled Cymru mewn siopau Cymraeg, swyddfeydd post, siopau papurau newydd, orielau, ambell i garej a hyd yn oed mewn siop bwtsiar!
Enwyd hi’n Cyfres WAhanol gan fod pobol Bala’n dueddol o gyfarch ei gilydd fel “Sut mai Wa?!” ac mae Logo’r cwmni’n dangos adlewyrchiad o Aran Benllyn yn nŵr Llyn Tegid. Menna Medi
Yn enedigol o Lanuwchllyn, mae Menna’n byw rŵan yn y Groeslon. Wedi pymtheg mlynedd efo Radio Cymru, a 10 efo Cwmi Recordiau Sain, mae hi bellach yn gweithio fel ymchwilydd llawrydd. Mae'n ysgrifennu erthyglau achlysurol i’r Cymro, yn aelod o ddau gwmni drama yn Nyffryn Nantlle, ac mae wedi cyhoeddi dwy nofel o dan y teitl 'Hogan Horni'. Mae’n enillydd naw cadair eisteddfodol ac mae wrth ei bodd yn teithio. Lwcus, oherwydd hi hefyd sy’n teithio Cymru’n dosbarthu’r cardiau o siop i siop.

Bethan Elin Jones
Mae’n hanu o Landderfel ac yn byw rŵan yng Nghaernarfon. Mae’n arbenigo mewn lluniau olew o dirluniau a rhaeadrau, a derbyniodd Ysgoloriaeth i fynd i America ac i deithio Ewrop yn darlunio. Mae ei gwaith i’w weld ar waliau drwy Gymru ac mae wedi arddangos ei lluniau ar nifer o raglenni S4C, gan gynnwys Y Sioe Gelf ac Wedi 3. Bellach, Bethan yw Is-Guradur Oriel Frenhinol Conwy. Hi sy’n gyfrifol am yr holl luniau a’r caracatures lliwgar a welir yn 'Cyfres WAhanol'.

|
|